Y pasport dysgu digidol

Peidiwch â phoeni! Dyw RISE ddim eisiau i'r holl waith papur sy'n ymwneud ag astudio i fod yn faich sy'n eich rhwystro rhag dysgu a mwynhau. Dyna'r rheswm pam rydym yn creu'r Pasport Dysgu Digidol: er mwyn cadw popeth sydd angen ei wybod am eich gyrfa dysgu.
Fel dysgwr RISE, byddwch yn gallu cael mynediad i fanylion am y cyrsiau rydych yn eu dilyn, yn ogystal â'r wybodaeth byddwch wedi'i chasglu a'i chreu ar gyrsiau blaenorol - y cyfan ar-lein.
Mewn geiriau eraill, fydd eich pasport dysgu ddim yn cael ei daflu i'r bin unwaith rydych yn gorffen cwrs. Bydd yn para cyhyd â,ch bod yn parhau i ddysgu a bydd yn tyfu'n fwy wrth i chi gyflawni mwy.
Cofrestru am y ffeil cynnydd
Stori Defnyddiwr y Ffeil Cynnydd
Mae Norman Excell yn 62 oed. Gwnaeth ymddeol yn gynnar o'i swydd fel technegydd yng Ngwaith Dur Corus yng Nglyn Ebwy. Roedd am ddatblygu'i sgiliau cyfrifiadurol, a dechreuodd gwrs TG yn ei ganolfan gymunedol leol, a ddilynwyd gan ddosbarth ffotograffiaeth ddigidol.
Mae Norman yn teimlo bod dysgu sgiliau newydd wedi cyfoethogi'i fywyd, a dechreuodd gynrychioli dysgwyr o Sir Fynwy pan oedd y rhwydwaith RISE yn cael ei ddatblygu. Mae bellach yn defnyddio'i sgiliau ffotograffiaeth mewn canolfannau dysgu eraill ac yn gweithio fel hyrwyddwr dysgu er mwyn helpu pobl i fwynhau'r profiad dysgu gymaint ag y gwnaeth e.
