Rhwydwaith Cymorth RISE

Dyw dysgu ar eich pen eich hun ddim yn llawer o hwyl. Mae angen i chi gael pobl o'ch cwmpas - tiwtoriaid a dysgwyr eraill - i gyfarwyddo'ch gwaith, dweud wrthych am eich cynnydd a'ch annog i barhau.
Mae RISE yn deall bod cymorth yn hanfodol i unrhyw ddysgwr a bydd Rhwydwaith Cymorth RISE yn sicrhau bod rhywun ar gael y gallwch droi ato bob cam o'r ffordd.
Bydd Swyddog Datblygu Dysgu gan bob sir a fydd yn dweud wrthych am sut mae dechrau dysgu gyda RISE.
Gallwch gael help oddi wrth Hyrwyddwr Dysgu hefyd, sef rhywun lleol â phrofiad uniongyrchol o RISE, a fydd yn esbonio'r gwasanaeth y mae RISE yn ei gynnig yn eich ardal a sut y gallwch gael mynediad iddo.
Ar ôl i chi gofrestru ar gwrs yn eich Canolfan Gweithredu Dysgu, byddwch yn cymryd rhan mewn ethol Cynrychiolydd Dysgu a fydd yn cyflwyno eich pwyntiau yng nghyfarfodydd Pwyllgor Datblygu Dysgu'r ganolfan. Bydd pobl sy'n ymwneud â RISE ar bob lefel yn mynychu'r cyfarfodydd hyn, ond bydd eich llais chi yn gryfach na'r lleill, oherwydd bod RISE yn disgwyl y bydd 50% o'r aelodau mewn pob pwyllgor yn ddysgwyr.
Caiff Fforymau i Ddysgwyr eu sefydlu ym mhob canolfan fel bod modd i chi ddarganfod sut mae dysgwyr eraill yn datblygu gyda RISE ac i ddod i'w hadnabod.
Os oes gennych gwestiwn sydd angen ei ateb ynglyn â pha gwrs i'w gymryd nesaf, neu os ydych am gynnig awgrymiad ynglyn â sut mae'ch canolfan yn cael ei rhedeg, bydd rhywun ar gael i wrando arnoch a'ch arwain yn y cyfeiriad iawn.
Cysylltwch â RISE nawr am wybodaeth bellach.
Cofrestrwch ar gyfer y ffeil cynnydd
Stori'r dysgwr cymdeithasol
Roedd Sue Goodyear yn dringo'r ysgol gyrfa fel nyrs cyn iddi anafu'i chefn yn 30 oed a'i gorfododd i roi'r gorau i'w swydd. Roedd hi'n gweld eisiau ar yr her roedd ei hen swydd yn ei chynnig iddi, ac felly dechreuodd fynd i ddosbarthiadau cyfrifiaduron cyn symud i Gasnewydd a chofrestru ar gyfer cwrs Sbaeneg.
"Mae dysgu wedi rhoi bywyd cymdeithasol i mi,"meddai. Mae wedi cadw fy meddwl yn effro. Mae'n cynnig her i mi ac mae'n rhywbeth i edrych ymlaen ato. "
Mae RISE yn cynnig consesiynau i bobl sydd yn hawlio budd-daliadau, sydd yn golygu bod Sue yn ei hail flwyddyn o'i chwrs Sbaeneg erbyn hyn, ac yn meddwl am wneud rhai cyrsiau creadigol.
