Newyddion
Mae gan RISE reswm da dros ddathlu y mis yma - mae dau o'n dysgwyr mwyaf awyddus wedi cipio gwobrau cenedlaethol am eu hymroddiad i addysg oedolion.
Mae Phil Swan a Denise Challenger â llawer o bethau'n gyffredin. Mae'r ddau yn dod o Lyn Ebwy ac mae'r ddau wedi darganfod blas ar ddysgu yn weddol hwyr mewn bywyd. Ond ers cymryd eu camau cyntaf i fynd yn ôl i fyd addysg, nid yw'r naill na'r llall wedi edrych yn ôl.
Ar ôl chwilio ar hyd a lled y wlad, dewiswyd Phil fel 'Outstanding Adult Learner' a Denise fel enillydd y 'Progression Award' gan banel Inspire 2005. "Beth dw i angen yw parhau i ddysgu fel 'mod i'n gallu cwrdd â sialensiau newydd," meddai Phil. Collodd ei swydd pan gafodd gwaith dur CORUS ei gau a dechreuodd ddysgu er mwyn profi i'w deulu a'i ffrindiau ei fod yn gallu cyflawni rhywbeth. Dechreuodd amrywiaeth o gyrsiau yn 53 oed, a dwy flynedd yn ddiweddarach mae wedi dechrau adeiladu gyrfa newydd yn helpu teuluoedd pobl sydd wedi camddefnyddio cyffuriau. Yn y cyfamser, mae'n sicrhau ei fod yn neilltuo amser ar gyfer astudio a helpu RISE i recriwtio dysgwyr newydd.
Roedd Denise Challenger yn teimlo bod ei phwrpas mewn bywyd wedi diflannu ar ôl marwolaeth ei mab oedd dan gryn anfantais gorfforol. Roedd hi wedi treulio 21 mlynedd yn gofalu amdano. Er iddi gymryd pedair blynedd i fentro i'w chanolfan ddysgu leol, cododd dros £10,000 i Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd trwy gerdded yn y Mynyddoedd Himalaia, diolch i'r gefnogaeth a'r anogaeth oedd i'w cael yn y ganolfan.
"Dw i ddim yn hanner gwneud pethau," cyfaddefa Denise. "Rydw i wedi cael bywyd newydd. Mae addysg gymunedol yn rhywbeth i bawb a dw i'n treulio llawer o'm hamser yn dweud hyn wrth bobl." Mae stori lwyddiannus Phil a Denise yn dystiolaeth nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu.
Mynnwch gopi o 'Toolkit' newydd RISE, sef canllaw 'gam wrth gam' i'ch helpu i fanteisio ar eich profiad dysgu gymaint ag y gallwch.
Mae'r Toolkit, a gynhyrchwyd gan Sefydliad Cenedlaethol Addysg Oedolion, yn esbonio sut y gall pawb ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen gyrchu gwasanaethau dysgu RISE - ond yn bwysicaf oll - i gael dweud eu dweud.
'Changing Landscapes'
Aeth RISE i gynhadledd arbennig y mis diwethaf ym Mhrifysgol Cymru, er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n dysgwyr. Roedd 'Changing Landscapes' yn canolbwyntio ar rai o'r agweddau allweddol ar RISE, yn cynnwys pwysigrwydd addysg barhaus yn y gymuned a bodloni anghenion dysgwyr. "Ehangu cyfranogiad" oedd un o destunau craidd eraill y gynhadledd, sy'n arbennig o berthnasol i RISE, oherwydd ein cred bod dysgu yn rhywbeth i bawb.
