Mae Dysgu i Bawb

Cyrsiau a chanolfannau RISE

Ffotograff o ddysgwr mewn llyfrgell

Gyda mwy na 200 o ganolfannau dysgu a 2000 o gyrsiau, mae RISE yn hyderus y byddwch yn gallu dod o hyd i gyfuniad sy'n addas i'ch anghenion. Os na, rhowch wybod i ni a cheisiwn addasu gorau ag y gallwn ni.

Efallai y byddwch am ddysgu am waith gofalu, ennill rhai sgiliau cyfrifeg neu gymhwyster iechyd a diogelwch. Gallwch ddewis o'r holl gyrsiau mae RISE yn eu cynnig yma.

Rydym yn gobeithio na fydd eich profiad o rwydwaith dysgu RISE yn dod i ben ar ôl i chi orffen eich cwrs cyntaf. Mae llawer o ddysgwyr yn cyfaddef bod dysgu'n heintus ar ôl iddyn nhw ddarganfod pa mor ddefnyddiol a phleserus mae dysgu gyda RISE yn gallu bod. Efallai y byddwch chi am barhau gyda chwrs uwch, dechrau rhywbeth newydd neu sôn am RISE wrth eich teulu a'ch ffrindiau.

Cyn gynted ag y byddwch yn ymuno â RISE, bydd croeso mawr i chi yn ein Fforwm i Ddysgwyr i drafod eich barn am ein cyrsiau a'n canolfannau. Mewn gwirionedd, hoffwn gynifer ohonoch â phosibl i leisio'ch barn er mwyn i ni gael gwybod sut y gallwn wneud RISE yn fwy perthnasol i'w defnyddwyr. Efallai y byddwch eisiau bod yn Hyrwyddwr Dysgu eich hun, a helpu pobl eraill i ymuno â rhwydwaith dysgu RISE.

Ffotograff o hyfforddwr dysgu yn Llyfrgell Casnewydd

Stori dysgwr

Gadawodd Julie Rees yr ysgol gydag ychydig o gymwysterau, ond dechreuodd gael hwyl ar ddysgu yn eu hugeiniau cynnar pan oedd yn gofalu am ei dau blentyn bach. Dechreuodd gyda rhai TGAU yn gyntaf, ac wedyn gwnaeth gwrs mewn iaith arwyddion. Roedd hi eisoes wedi dysgu hyn gan ei gŵr byddar.

Erbyn hyn, mae Julie yn gweithio yn swyddfa'r Ganolfan Dysgu Cymunedol yn Stryd Siarl, Casnewydd, lle mae'n cynnig cymorth hanfodol i ddysgwyr â nam ar eu clyw.

"Bum mlynedd yn ôl fyddwn i ddim wedi dweud y byddwn i bellach yn astudio ar gyfer Safon Uwch. Mae dysgu wedi rhoi dyfodol i mi."