Cyrsiau RISE

Dyw RISE ddim fel bod yn yr ysgol lle roedd rhaid i chi jyglo llawer o bynciau nad oeddech chi'n eu mwynhau. Dyw RISE ddim fel prifysgol chwaith, sy'n gofyn am ymroddiad enfawr gan ei myfyrwyr i weithio tuag at ennill gradd.
Mae RISE eisiau i chi ddewis eich cwrs eich hun, penderfynu pa lefel rydych eisiau ei hastudio a'r lleoliad gorau i chi fynychu dosbarthiadau. Gallai hyn gynnwys dysgu sgiliau cyfrifiadurol er mwyn eich helpu i ddod o hyd i swydd newydd neu ddatblygu hobi a fu o ddiddordeb i chi ers blynyddoedd.
Mae RISE yn cynnig cymaint o amrywiaeth o ran cyrsiau oherwydd ei fod am i chi ddod o hyd i rywbeth sy'n apelio atoch a'ch anghenion. Er hynny, mae'n bosibl y bydd gennych uchelgeisiau i ddysgu rhywbeth nad ydym yn ei gynnig. Dyna'r rheswm pam rydym wedi datblygu Rhwydwaith Cymorth RISE. Drwy hyn, gallwch fynegi'ch holl anghenion dysgu i dīm RISE.
Chwilio am gwrs
Yr hyrwyddwr dysgu
Dechreuodd Sue Curtis o Sir Fynwy beintio gartref er mwyn lleddfu poen ac iselder a achoswyd gan salwch tymor hir cyn mynd amdani ac ymuno ā dosbarth tua phum mlynedd yn ô.
"Roedd hynny'n un o'r pethau mwyaf brawychus roeddwn i wedi'i wneud erioed,"meddai Sue. "Ond rydw i'n meddwl y gall unrhyw un elwa ar fynd allan a gwneud rhywbeth sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ac mae wir yn werth chweil."
Mae Sue yn hyderus bod ei sgiliau celf wedi gwella, ac mae hi wedi dechrau cwrs newydd mewn trefnu blodau. Ond yn fwy na hynny, mae hi wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi cael cyfle i ymlacio ac anghofio am ei salwch.
