Canolfannau RISE

Mae mwy na 200 o ganolfannau dysgu RISE yn y pum sir, sef Blaenau Gwent, Casnewydd a Chaerffili, Sir Fynwy, Torfaen, fel bod pob dysgwr RISE yn gallu dod o hyd i le ger ei gartref neu'i weithle.
Cefnogir pob un o'n Canolfannau Gweithredu Dysgu gan lawer o Ganolfannau Allanol – lleoedd llai a mwy arbenigol i ddysgu, a all fod yn eich llyfrgell, eich archfarchnad neu'ch tafarn leol hyd yn oed. Er y gallech deimlo'n unig efallai, oherwydd eich bod yn byw mewn ardal wledig ddiarffordd neu efallai eich bod yn anabl, bydd RISE yn sicrhau bod gennych fynediad i ddysgu.
Mae RISE yn gwrando ac yn addasu i anghenion ei ddysgwyr, ac mae hefyd yn rhoi cefnogaeth a chyfarwyddyd bob cam o'r ffordd. Bydd gan ddysgwyr fynediad rhwydd i diwtoriaid a'r cyfle i gwrdd â'i gilydd a chynrychiolwyr RISE er mwyn siarad am eu cynnydd a chynnig syniadau newydd. Bydd pob canolfan RISE yn gwneud i'w dysgwyr weithio allan sut i wireddu'u hanghenion dysgu unigol.
Stori dysgwr
Dechreuodd Anne Price ddysgu gyda chwrs TG, a arweiniodd at gyrsiau eraill a ffrindiau newydd. Erbyn hyn, mae Anne yn Gynrychiolydd Dysgwyr i RISE.
"Roedd angen i mi ailymuno â'r 21ain ganrif. Mae'r cyrsiau cyfrifiadurol wedi rhoi'r wybodaeth i mi ddod o hyd i'm ffordd o gwmpas y rhyngrwyd. Mae grŵp ohonom ni a ddechreuodd ar yr un cwrs TG sydd wedi mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau gwahanol. Rydym ni i gyd yn dal i ddysgu ac rydym ni'n ceisio neilltuo amser i gwrdd mor aml ag y gallwn ni."
