Dysgu gyda RISE
Pryd enilloch chi sgil newydd, neu ddod o hyd i hobi newydd neu astudio tuag at gymhwyster? Efallai i chi roi'r gorau i ddysgu oherwydd nad oedd lle gennych ar ei gyfer yn eich bywyd prysur. Efallai i'r dosbarthiadau fod ar amser anghyfleus neu'n rhy bell i ffwrdd, neu efallai nad oedd neb gennych i siarad â nhw am eich cwrs neu'ch cynghori ynglyn â beth i'w astudio hyd yn oed.
Gyda RISE gallwch ddysgu'r sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd neu i ddisgleirio yn y swydd sydd gennych yn barod. Gallwch wneud cwrs rydych wastad eisiau ei wneud neu roi cynnig ar rywbeth nad ydych wedi'i ystyried o'r blaen. Mae RISE yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion, cyflogwyr lleol, arweinyddion cymunedol a hyfforddwyr preifat er mwyn sicrhau eich bod yn cael mynediad i'r cyrsiau a'r cyfleusterau gorau. Ond yn well fyth, mae RISE yn gweithio i CHI, er mwyn darparu'r cyfleoedd dysgu rydych wastad wedi gobeithio eu cael.

